Adolygiad cyflym o Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd sy’n Gweithio mewn Gwasanaethau Newyddenedigol
Cefndir a Chyd-destun
Caiff gofal newyddenedigol ei gynnig i fabanod cynamserol a babanod hyd at 28 diwrnod oed y mae’n bosibl y bydd angen cymorth ychwanegol arnyn nhw.
Ceir nifer o wahanol weithwyr iechyd proffesiynol yn gweithio yng ngwasanaethau newyddenedigol. Ymhlith y rhain mae dietegwyr, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion a therapyddion lleferydd - a elwir fel arall yn Weithwyr Proffesiynol Cysylltiedig (AHPs).
Gwnaeth yr adolygiad hwn ystyried y gwahaniaeth y mae’r Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig hyn o bosib yn ei wneud mewn gwasanaethau newyddenedigol drwy roi ystyriaeth i’r canlynol:
- Effeithiolrwydd gwasanaethau newyddenedigol pan fo Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig yn rhan o’r tîm, o’i gymharu â phan nad ydyn nhw’n rhan o’r tîm
- Effeithiolrwydd y gofal a’r cymorth cynnar a gaiff eu cynnig gan Weithwyr Proffesiynol Cysylltiedig mewn unedau newyddenedigol
Nodau
Bwriad yr astudiaeth hon yw asesu’r effaith y mae cynnwys Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig yn ei chael mewn gwasanaethau newyddenedigol, gan fesur hyn ochr yn ochr â gwasanaethau newyddenedigol heb weithwyr proffesiynol o'r fath. Drwy wneud hyn, gallai’r ymchwil fod o gymorth â phrosesau cynllunio'r gweithlu a staffio mewn timau newyddenedigol.
Strategaeth
Yn rhan o’r astudiaeth hon, cafodd amrediad o astudiaethau ei adolygu rhwng 2016 a 2024, gan gynnwys gwaith a wnaed yn Ewrop, Gogledd a De America, ac Asia.
Roedd rhai o’r astudiaethau hyn wedi cymharu’r canlyniadau cyn ac ar ôl i Weithwyr Proffesiynol Cysylltiedig gael eu cynnwys mewn gwasanaethau newyddenedigol. Edrychodd yr astudiaethau eraill ar ymyriadau cynnar a wnaeth cynnwys y rhieni yn weithredol.
Canlyniadau
Roedd tystiolaeth o sicrwydd isel (dibynadwyedd isel) yn awgrymu bod cael Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig mewn gwasanaethau newyddenedigol wedi arwain at welliannau mewn sgiliau echddygol bras (megis defnyddio cyhyrau mwy yn y corff fel breichiau, coesau a thorso sy’n galluogi sefyll, rhedeg a neidio) neu fwydo drwy'r geg yn gynharach (bwydo drwy'r geg) ar gyfer babanod ifanc. Ni ddaeth y canlyniadau a edrychodd ar effaith y timau cymorth maeth mewn unedau newyddenedigol i unrhyw gasgliad.
Roedd rhywfaint o dystiolaeth o sicrwydd cymedrol (dibynadwyedd cymedrol) yn awgrymu bod gofal a chymorth cynnar gan Weithwyr Proffesiynol Cysylltiedig yn arwain at arhosiadau byrrach yn yr ysbyty, a bwydo drwy’r geg yn gynharach, yn ogystal â mân-welliannau mewn galluoedd gwybyddol (meddyliol) a chorfforol cyffredinol y babanod, o’u cymharu â’r timau newyddenedigol heb Weithwyr Proffesiynol Cysylltiedig yn rhan ohonyn nhw.
Roedd y dystiolaeth yn wannach wrth edrych ar ymyriadau cynnar a oedd yn effeithio ar straen y rhieni.
Effaith
Mae’r adolygiad hwn yn cefnogi’r syniad bod cynnwys Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig mewn unedau newyddenedigol yn fwy debygol o wella canlyniadau, ond nid nifer y staff y mae eu hangen i gyflawni hyn yn hysbys. Fodd bynnag, mae argymhellion ynghylch y nifer fwyaf ffafriol o staff y mae eu hangen i ffurfio’r gweithlu newyddenedigol (gan gynnwys Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig) ar gael gan Gymdeithas Meddygaeth Amenedigol Prydain.
Ni cheir llawer o dystiolaeth sy’n uniongyrchol berthnasol ynghylch cyfranogiad y Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig mewn timau newydd-anedig. Ymhlith yr ymyriadau hynny a gafodd eu hadolygu, dim ond ychydig iawn ohonyn nhw a ddeilliodd o’r DU, sy’n awgrymu bod angen gwneud gwaith ymchwil pellach ar y ffordd orau o integreiddio Gweithwyr Proffesiynol Cysylltiedig mewn gwasanaethau newyddenedigol yn y DU.
Ysgrifennwyd y crynodeb hygyrch gan Melanie Mcaulay.
RR0028