Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus

Partneriaeth Gyhoeddus a Chyd-gynhyrchu mewn Ymchwil yn y Ganolfan Dystiolaeth

5 Tachwedd

Rhan allweddol o nod strategol y Ganolfan Dystiolaeth yw rhoi’r cyhoedd wrth galon ein gwaith. Rydyn ni’n cynnwys y cyhoedd ym mhob gweithgaredd, gan gynnwys blaenoriaethu a mireinio’r cwestiynau ymchwil (sy’n cael eu hychwanegu at raglen waith barhaus y Ganolfan), dehongli canfyddiadau ac ysgrifennu crynodebau lleyg. Mae’r dull hwn yn gwneud yn siŵr bod ein gwaith gyda’r cyhoedd yn cael effaith go iawn. 

Er mwyn cyflawni’r nod strategol hwn, rydyn ni, y Ganolfan Dystiolaeth, wedi ychwanegu rôl at ein tîm craidd lle bydd  aelod o’r cyhoedd yn gweithio gyda staff ymchwil yn rhan o gynhyrchu adolygiadau’r Ganolfan Dystiolaeth, gan roi cyd-gynhyrchu wrth wraidd arferion y Ganolfan Dystiolaeth.  

Croesawyd Libby Humphris i rôl Cyd-arweinydd y Cyhoedd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd yn ystod Gwanwyn 2023. Mae Libby yn gweithio ochr yn ochr â'r Cyd-arweinydd Academaidd ar gyfer Cynnwys ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd, Dr Denitza Williams. 

Gyda’i gilydd, maen nhw’n arwain Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus (PPG) y Ganolfan Dystiolaeth (sy’n cynnwys 10 o aelodau a chyd-arweinwyr); gan lywio’r strategaeth cynnwys y cyhoedd a’r dogfennau canllaw, ac arwain ar y gwaith o ddatblygu log effaith cynnwys y cyhoedd unigryw. Mae gan y bartneriaeth hon, sy’n gynhyrchiol i bob partner, lawer iawn o fuddion: rhannu syniadau, cydweithio ar strategaethau, a rhannu’r llwyth gwaith ac atebolrwydd. Mae perthynas Libby a Deni yn berthynas gyfartal er mwyn hyrwyddo cynhwysiant a grymuso, sy’n alinio â Safonau Cynnwys y Cyhoedd y DU

Mae rolau Libby a Deni fel cyd-arweinwyr yn cynrychioli dull unigryw o gynnwys ac ymgysylltu â'r cyhoedd, gan chwalu'r rhwystrau sy'n wynebu cyfranwyr cyhoeddus trwy roi sedd gyfartal wrth y bwrdd. 

Yn ystod blwyddyn gyntaf y Ganolfan Dystiolaeth, mae'r Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus wedi bod yn rhan o:  

  • 24 o Adolygiadau Tystiolaeth 
  • 4 Prosiect Ymchwil Sylfaenol
  • Ysgrifennu 11 o Grynodebau Lleyg 
  • Gweithio ar 20 o Adroddiadau Terfynol 
  • 2  o Rowndiau Blaenoriaethu Cwestiynau 

Mae wedi bod yn bleser gweithio ochr yn ochr â Libby i gyd-arwain cyfranogiad y cyhoedd yn y Ganolfan Dystiolaeth. Mae Libby yn aelod craidd o'r tîm yn y Ganolfan sy'n ymwneud â phob lefel o lywodraethu. Fel rhywun sydd â phrofiad yn byw gyda sawl cyflwr iechyd cronig, mae Libby wedi gallu rhoi mewnwelediad gwerthfawr i arwain cyfranogiad y cyhoedd yn y Ganolfan a helpu i lunio ymchwil. Mae ei chyfraniad i gynnwys cleifion a'r cyhoedd wedi bod yn rhagorol.
                                                                                                                                                                                                                      Dr Deni Williams       

Felly heb oedi pellach, dyma flog Libby ar sut mae’r holl beth yn gweithio!       

                   Dim Ben a Jerry ydyn ni, ond Libby a Deni!