Adolygiad cyflym o’r ffactorau lefel sefydliadol sy'n cefnogi neu'n atal maint a lledaeniad datblygiadau arloesol ym maes gofal cymdeithasol plant
Adolygiad cyflym o’r ffactorau lefel sefydliadol sy'n cefnogi neu'n atal maint a lledaeniad datblygiadau arloesol ym maes gofal cymdeithasol plant.
Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddi’n sylweddol dros dair blynedd i gefnogi datblygiadau arloesol ym maes gofal cymdeithasol i blant ac oedolion. Mae gan waith darparu gofal cymdeithasol yng Nghymru ddull cymhleth ac amlochrog, sy'n cynnwys cydweithio rhwng ystod o sefydliadau, a fydd yn debygol o effeithio ar benderfyniadau ynghylch gweithredu ymyriadau newydd a/neu ddatblygu ymyriadau presennol. Nod yr adolygiad oedd nodi unrhyw ffactorau (rhwystrau a galluogwyr) sy'n effeithio ar weithrediad a datblygiad arloesi mewn sefydliadau gofal cymdeithasol plant.
Mae’r adolygiad cyflym hwn, a gynhaliwyd er budd Gofal Cymdeithasol Cymru, wedi rhoi rhywfaint o fewnwelediad i sut y gall newidiadau arloesol ddarparu modd o fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau cymdeithasol Plant, rhai ohonynt wedi’u gwreiddio’n ddwfn ac wedi’u gwaethygu gan bandemig COVID-19.
Beth mae 'Arloesi' yn ei olygu?
At ddiben yr adolygiad hwn, diffinnir arloesi fel “gweithredu syniad, arfer neu ddyfais o fewn sefydliad neu system sy'n newydd i'r sefydliad neu system. Cyfyngwyd yr adolygiad i astudiaethau'r DU ac adolygiadau perthnasol i'r DU o astudiaethau o unrhyw gynllun a gyhoeddwyd ers 2014.
Nod
Nodi ffactorau (rhwystrau a galluogwyr) sy'n effeithio ar weithredu datblygiadau arloesol mewn sefydliadau gofal cymdeithasol i blant (gan gynnwys sefydliadau statudol a'r trydydd sector). Ni werthuswyd effeithiolrwydd arloesiadau.
Crynodeb o'r Dystiolaeth a Nodwyd
Roedd yr adolygiad hwn yn cynnwys tystiolaeth a oedd ar gael hyd at fis Tachwedd 2022. Nodwyd 10 astudiaeth ar draws 13 o gyhoeddiadau gan gynnwys:
- 3 x astudiaeth uwchradd
Roedd astudiaethau eilaidd yn cynnwys: adolygiad systematig dulliau cymysg o Arwyddion Diogelwch ar draws 13 o astudiaethau yn y DU (un o Gymru) ac eraill o wledydd tebyg i’r DU.
- 7 x astudiaeth cynradd
Roedd astudiaethau cynradd yn cynnwys tair a ddefnyddiodd gynllun astudiaeth ansoddol.
Cynhaliwyd pum astudiaeth gynradd yn Lloegr neu'r Alban.
Roedd dwy astudiaeth gynradd yn defnyddio gwerthusiad lleol ffurfiol o ddatblygiadau arloesol yng Nghymru.
Canfyddiadau Allweddol a Goblygiadau Polisi
Mae'r adolygiad cyflym hwn yn tynnu sylw at gymhlethdod y modelau gofal cymdeithasol ac mae'n cynnig rhai awgrymiadau clir ar gyfer polisi ac ymarfer i’w hystyried.
Mae 'galluogwyr' allweddol sy'n deillio o'r ymchwil yn cynnwys y canlynol:
- cymorth a chefnogaeth uwch-reolwyr
- cyllid tymor byr a thymor hwy
- cyfathrebu rhyngddisgyblaethol
- gweithio ar y cyd
- cydberthnasau proffesiynol ( a gofalwyr - gweithwyr proffesiynol) gyda chefnogaeth a pharch at ei gilydd
- hyfforddiant a chefnogaeth benodol i staff proffesiynol
- systemau data cydnaws i gefnogi cydweithio/cydweithredu
Mae 'rhwystrau' allweddol sy'n deillio o'r ymchwil yn cynnwys y canlynol:
- cyllid tymor byr neu ddiffyg cyllid
- anawsterau gweithredu (e.e. blaenoriaethau lluosog a strwythurau sy'n newid).
Trosolwg o'r Sail Tystiolaeth
- Roedd yr holl astudiaethau cynradd yn werthusiadau gwasanaeth (gan gynnwys 3 x astudiaeth ansoddol
- 2 x astudiaeth gynradd yn cynnwys gwerthusiad lleol ffurfiol o ddatblygiadau arloesol yng Nghymru
- 2 x astudiaeth ansoddol o ansawdd canolig a gynhaliwyd yn Lloegr
- Dim ond ar bum astudiaeth gyda methodoleg benodol y cynhaliwyd asesiad ansawdd ffurfiol; roedd tair ohonynt o ansawdd gwael
- Mae'r hyder yn y dystiolaeth yn ansicr
- Roedd cynlluniau'r astudiaethau yn cynnwys adolygiadau a gwerthusiadau gwasanaeth ansystemati
- Ni ddefnyddiodd y rhan fwyaf o astudiaethau fethodoleg ffurfiol
- Roedd gan bob un ohonynt rai cyfyngiadau ansawdd
Ysgrifennwyd y crynodeb hygyrch gan Rashmi Kumar, Ebrill 2023.
RR0001