Network

Defnyddio tystiolaeth i wneud gwahaniaeth

'Paratoi Gwybodaeth' yw'r broses o 'gyfieithu' neu gyflwyno canfyddiadau ymchwil mewn ffordd y gellir ei defnyddio ac sy'n hygyrch i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau polisi a'r cyhoedd.

Mae paratoi gwybodaeth yn strategaeth allweddol Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru i wneud y mwyaf o effaith a budd i’r cyhoedd.

Mae'r Ganolfan yn gweithio ar y cyd gydag arweinwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol a sefydliadau eraill i sicrhau bod canfyddiadau ein hymchwil yn cael eu cyflwyno yn y fformat mwyaf hygyrch posibl.

Mae'r dulliau paratoi neu 'ledaenu' gwybodaeth a ddefnyddiwn yn cael eu haddasu'n rheolaidd i ddiwallu anghenion y GIG, gofal cymdeithasol a'r cyhoedd.

Ymhlith y rhain y mae’r canlynol:

Adroddiadau llawn | Adroddiadau manwl o'n canfyddiadau

Crynodebau gweithredol | Crynodebau dwy dudalen o’r canfyddiadau allweddol a’r goblygiadau o ran polisi ac arfer, yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Crynodebau Lleyg | Ysgrifennwyd mewn iaith annhechnegol (300 gair). Hefyd ar gael yn Gymraeg a Saesneg.

Infograffeg | Taflen wybodaeth un dudalen sy’n defnyddio lluniau a thestun i bortreadu nodau astudiaeth a chanfyddiadau allweddol.

Llyfrgell adroddiadau | Gwefan gyda llyfrgell y gellir ei chwilio o'n hastudiaethau. Mae hyn yn cynnwys astudiaethau parhaus ac astudiaethau wedi’u cwblhau.

Briffiau tystiolaeth a chyflwyniadau i grwpiau perthnasol | Mae'r rhain yn rhoi llwyfan i'n hymchwilwyr gyflwyno canfyddiadau i grwpiau allweddol o randdeiliaid.

Digwyddiadau cyhoeddus | Yn agored i bawb ac yn gyffredinol yn cynnwys cyflwyniadau sy'n canolbwyntio ar rannu ein gwaith.

Digwyddiadau cyhoeddus | Rhoi gwybod i bobl am yr hyn rydym yn ei wneud a sut y gallant gymryd rhan

Cylchlythyrau | Cewch y wybodaeth ddiweddaraf am waith y Ganolfan a chlywed am newyddion a digwyddiadau sydd i ddod

Cyfryngau cymdeithasol | Codi ymwybyddiaeth ehangach o'n gwaith ar Twitter

Posteri cynadleddau | Darparu crynodeb technegol o ganfyddiadau ymchwil ar gyfer cynulleidfa academaidd

Erthyglau cyfnodolion a adolygir gan gymheiriaid

 

Effaith

Rydym yn gweithio’n agos gydag aelodau o’r cyhoedd, y GIG a gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru, i sicrhau bod ganddynt fynediad at holl ganfyddiadau ein hymchwil.

Rydym yn olrhain y defnydd o ganfyddiadau ein hymchwil i sicrhau bod effaith 'byd go iawn' ein gwaith yn cael ei nodi a’i ddeall.

 

Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Datblygwyd y prosesau a'r dulliau paratoi gwybodaeth a ddefnyddir gan y Ganolfan Dystiolaeth i ddechrau ar gyfer Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru (WCEC).  Yn ystod y pandemig, chwaraeodd y prosesau paratoi gwybodaeth rôl hanfodol, gan bontio'r bwlch rhwng cynhyrchu'r dystiolaeth ymchwil a'r dystiolaeth yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau, gan sicrhau bod y wybodaeth gywir yn cyrraedd y bobl iawn ar yr adeg iawn.

Mae Micaela Gal yn arwain ar baratoi gwybodaeth yn y Ganolfan Dystiolaeth, ac mae wedi ysgrifennu papur yn myfyrio ar y prosesau a'r gwersi a ddysgwyd gan WCEC: Paratoi gwybodaeth o adolygiadau tystiolaeth gyflym i lywio polisi ac ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol mewn argyfwng iechyd cyhoeddus: arfarnu prosesau ac effaith Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru, 2021-23