Geirfa

Adolygiad Cyflym:
Fersiwn gyflymach, wedi’i dargedu mwy o adolygiad systematig llawn. Mae'n defnyddio dulliau symlach i ddarparu crynodeb o'r wybodaeth bresennol ar bwnc, gan helpu i gefnogi penderfyniadau mewn modd amserol. Fel arfer, bydd yn cael ei gwblhau o fewn tua tri mis.
Crynodeb Cyflym o Dystiolaeth:
Trosolwg byr o'r ymchwil orau sydd ar gael ar bwnc penodol. Mae'r crynodebau hyn wedi'u cynllunio i roi mewnwelediadau defnyddiol yn gyflym, gan helpu llunwyr polisïau ac ymarferwyr i wneud penderfyniadau gwybodus yn ddi-oed. Fel arfer bydd yn cael ei gwblhau mewn tua phythefnos.
Crynodeb Gweithredol:
Crynodeb byr, â ffocws o brif bwyntiau adroddiad ymchwil. Mae wedi'i gynllunio ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau sydd angen y ffeithiau allweddol yn gyflym i lywio eu camau gweithredu.
Crynodeb Hygyrch:
Esboniad syml, clir o brosiect ymchwil neu ei ganfyddiadau, wedi'i ysgrifennu mewn iaith bob dydd fel y gall pobl nad ydynt yn arbenigwyr ei ddeall yn hawdd.
Cydblethu Tystiolaeth:
Y broses o ddod â chanfyddiadau o sawl astudiaeth at ei gilydd i gael darlun cliriach o'r hyn y mae'r dystiolaeth gyffredinol yn ei ddweud. Mae'n helpu'r ganolfan i wneud synnwyr o lawer o ymchwil i lywio penderfyniadau ar bolisïau iechyd a gofal.
Cynnwys ac Ymgysylltu â’r Cyhoedd:
Pan fydd aelodau'r cyhoedd, gan gynnwys cleifion, yn chwarae rhan weithredol mewn ymchwil. Maent yn helpu i arwain yr hyn y mae'r ymchwil yn canolbwyntio arno ac yn cyfleu ei ganfyddiadau i gynulleidfa ehangach.
Effaith:
Y gwahaniaeth mae ymchwil y ganolfan yn ei wneud yn y byd go iawn. Gallai hyn gynnwys helpu i lywio polisi neu ymarfer, gwella gofal iechyd, neu helpu'r cyhoedd i ddeall materion pwysig yn gliriach.
Ffeithlun:
Ffordd weledol o esbonio gwybodaeth neu ddata cymhleth gan ddefnyddio delweddau, siartiau a thestun syml. Mae'r ganolfan yn defnyddio'r rhain i wneud canfyddiadau ymchwil yn haws i’w deall ac yn fwy deniadol i bawb.
Grŵp Cleifion a’r Cyhoedd (GCC):
Grŵp sy'n cynnwys cleifion neu aelodau o'r cyhoedd sy'n helpu i lunio gwaith y ganolfan. Maen nhw yn darparu adborth i sicrhau bod yr ymchwil yn adlewyrchu anghenion a blaenoriaethau'r byd go iawn.
Map Adolygiad Cyflym:
Trosolwg eang o'r ehangder a'r math o dystiolaeth ymchwil sydd ar gael ar bwnc penodol neu gwestiwn ymchwil. Mae'n helpu i nodi'r hyn rydyn ni'n ei wybod a lle mae bylchau sydd angen mwy o ymchwil, fel arfer wedi'u cwblhau mewn tua mis.
Paratoi Gwybodaeth:
Sicrhau bod allbynnau ymchwil y ganolfan yn cyrraedd y bobl gywir yn y fformat cywir ar yr adeg gywir. Mae hyn yn helpu i lywio penderfyniadau a chefnogi polisi ac ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Gall casglu gwybodaeth o ganfyddiadau fod trwy rannu a chyhoeddi adroddiadau, cyflwyniadau, ffeithluniau neu ddulliau eraill.
Partner Cydweithio:
Sefydliad sy'n gweithio gyda'r ganolfan ar brosiect ymchwil. Maent yn dod ag arbenigedd, yn rhannu adnoddau, neu'n ymgymryd â chyfrifoldebau penodol i helpu i gyflawni nodau'r prosiect.
Rhaglen Waith:
Cynllun sy'n amlinellu pa dasgau ymchwil fydd yn cael eu gwneud, pryd y byddant yn cael eu cwblhau, a'r hyn y maent yn anelu i’w gyflawni. Mae'n helpu'r ganolfan i aros yn drefnus a chanolbwyntio ar ddarparu ymchwil o ansawdd uchel.
Rhanddeiliad:
Rhywun sydd â diddordeb mewn ymchwil neu brosiectau'r ganolfan. Gallai hyn gynnwys ymchwilwyr, pobl sy'n ymwneud â gwneud penderfyniadau iechyd neu ofal cymdeithasol, neu aelodau o'r cyhoedd a allai fod ag angen tystiolaeth ymchwil, cydweithio â ni, a defnyddio neu wedi eu heffeithio gan y canfyddiadau.
Rhyngwyneb Gwyddoniaeth-Polisi-Arfer (SPPI):
Ffordd o gysylltu gwyddoniaeth â pholisi ac ymarfer. Mae'r ganolfan yn defnyddio SPPI i sicrhau bod canfyddiadau ymchwil yn cael eu rhannu a'u cymhwyso mewn lleoliadau yn y byd go iawn, gan helpu i ddatrys problemau ymarferol a llywio polisïau.
Ymchwil Sylfaenol:
Ymchwil newydd sy'n cynnwys datblygu dull a chasglu a dadansoddi data. Mae hyn yn wahanol i edrych ar neu ddadansoddi astudiaethau a gyhoeddwyd eisoes (cydblethu tystiolaeth).