Effeithiolrwydd ymyriadau sy’n helpu menywod, merched a phobl sy’n cael mislif i gymryd rhan mewn ymarfer gweithgaredd corfforol: trosolwg bras o adolygiadau
Cefndir
Argymhellir bod oedolion (rhwng 18-64 oed) yn cael naill ai 150-300 munud o weithgarwch corfforol cymedrol-egnïol yr wythnos, neu 75-150 munud o weithgarwch corfforol egnïol-dwys yr wythnos. Ta waeth, mae nifer y menywod nad ydynt yn bodloni’r lefelau gweithgarwch corfforol a argymhellir 5% yn uwch na dynion yn fyd-eang. Mae menywod, merched a phobl sy’n profi’r mislif yn wynebu llu o rwystrau wrth gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, gan gynnwys rhagfarn o ran rhyw, canfyddiad o sgiliau a chymhwysedd ymarfer corff isel, a chymorth annigonol gan gyfoedion a/neu’r teulu. Ymhellach i hyn, mae llawer yn nodi’r mislif fel rhwystr. Mae llawer o ymyriadau wedi’u cynnig i gynyddu cyfraniad menywod, merched a phobl sy’n profi’r mislif mewn gweithgarwch corfforol.
Nod
Nod y trosolwg bras o’r adolygiadau yw archwilio effeithiolrwydd ymyriadau sy’n cefnogi menywod, merched a phobl sy’n profi’r mislif i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. Yn ogystal, mae’r adolygiad yn archwilio a yw unrhyw rai o’r ymyriadau hyn yn ymgorffori rheoli lefelau gweithgarwch corfforol drwy gyfnod cylchred y mislif.
Mae’r arolwg cyflym o adolygiadau yn dilyn y Crynodeb cyflym o'r dystiolaeth a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf 2024.
RR0035