Trosglwyddo addysg gynradd i uwchradd yn ystod pandemig COVID-19: astudiaeth ansoddol o brofiadau disgyblion cyfrwng Cymraeg a’u rhieni di-Gymraeg

Cefndir a Chyd-destun

Astudio yn y Gymraeg yw’r brif ffordd mae plant yn datblygu eu sgiliau Cymraeg. Fodd bynnag, roedd cyfyngiadau symud, cau ysgolion, a dysgu gartref yn ystod pandemig COVID-19 yn ei gwneud yn anodd cael mynediad i’r Gymraeg. Effeithiodd hyn yn sylweddol ar blant o deuluoedd di-Gymraeg sy'n astudio yn Gymraeg. Un her a wynebodd y rhieni a’r plant hyn oedd trosglwyddo neu symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd.

Nodau

Roeddem am archwilio sut roedd plant o deuluoedd di-Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a’u rhieni yn teimlo am effaith y pandemig ar:

  • Addysg cyfrwng Cymraeg,
  • Datblygu sgiliau iaith Gymraeg,
  • Trosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd.

Roeddem yn gobeithio adnabod a oes angen cymorth ychwanegol ar y rhieni a’r plant hyn ac, os ydynt, pa fath o gymorth sydd ei angen arnynt.

Strategaeth

Fe wnaethom recriwtio parau rhiant-plentyn o deuluoedd oedd yn siarad Cymraeg yn bennaf gartref tra bod eu plentyn/plant yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog. Fe wnaethom gyfweld disgyblion a rhieni am ddysgu gartref, trosglwyddo i’r ysgol uwchradd yn ystod y pandemig, a dychwelyd i’r ysgol ar ôl y cyfyngiadau symud. Casglwyd a dadansoddwyd y data ansoddol hwn rhwng Ionawr a Mehefin 2023.

Canlyniadau

Cytunodd y cyfranogwyr eu bod wedi cael llai o gyfleoedd i ymgysylltu â’r Gymraeg yn ystod y pandemig. Teimlent fod yr amlygiad cyfyngedig i’r Gymraeg wedi achosi oedi wrth ddatblygu sgiliau Cymraeg y disgyblion. O’u profiadau, argymhellodd y cyfranogwyr:

1. Hwyluso'r newid o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd drwy:
                    a.Gryfhau cysylltiadau rhwng y ddau leoliad ysgol.
                    b.Asesu sgiliau iaith Gymraeg cyn y cyfnod trosglwyddo fel y gellir darparu cymorth i ddisgyblion sydd ei angen

2. Gwella cyfathrebu dwyieithog rhwng yr ysgol a'r cartref
3. Cynyddu cyfleoedd i rieni a phlant ddefnyddio'r Gymraeg

Effaith

Mae ein canfyddiadau yn argymell newidiadau i bolisi ac arfer y llywodraeth er mwyn cefnogi disgyblion Cymraeg eu hiaith a’u rhieni yn well, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio heriol i’r ysgol uwchradd. Mae’r ymchwil hwn yn arbennig o berthnasol i ddisgyblion sy’n dod o gartrefi di-Gymraeg.

Ysgrifennwyd y Crynodeb Lleyg gan Praveena Pemmasani

Dyddiad:
Cyfeirnod:
PR0005