Adolygiad Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Yr wythnos hon, mae Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru wedi cyhoeddi ei hadroddiad terfynol yn arddangos dwy flynedd o waith a helpodd gweinidogion i wneud penderfyniadau iechyd a gofal cymdeithasol hanfodol yn ystod y pandemig.

Adolygiad Canolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru

Mae’r adroddiad “etifeddiaeth” yn trafod sut y bu i’r Ganolfan, a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, fynd i’r afael â materion a oedd yn bwysig i’r cyhoedd, gan chwarae rhan hanfodol mewn sicrhau ymchwil COVID-19, a lywiodd sut yr ymdriniwyd â’r pandemig yng Nghymru, ei fod yn gyfredol ac yn berthnasol i'r boblogaeth.

Roedd aelodau’r cyhoedd yn hanfodol i waith y Ganolfan, gyda’r adroddiad yn amlygu sut mae’r cyhoedd wedi cefnogi creu adolygiadau tystiolaeth ac astudiaethau ymchwil newydd drwy roi eu barn ar flaenoriaethau ymchwil ac ysgrifennu crynodebau adroddiadau hawdd eu deall.

Dyddiad:
Cyfeirnod:
N/A