Modelau Rhannu Gwybodaeth mewn Lleoliadau Gofal Cymdeithasol: Adolygiad cyflym
Cefndir a Chyd-destun
Mae rhannu tystiolaeth ymchwil a’i defnyddio mewn ymarfer gofal cymdeithasol yn gallu bod yn heriol. Nid yw rhoi’r dystiolaeth i bobl, hyd yn oed pan mae’n gryno, yn golygu y caiff ei defnyddio yn y byd go iawn.
Er mwyn helpu i wreiddio ymchwil i ymarfer gofal cymdeithasol, mae Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) wedi datblygu 'Strategaeth Ymchwil ac Ymarfer Cymru’ a chynnig tystiolaeth i helpu darparwyr gofal cymdeithasol, arweinwyr, a datblygwyr i ddefnyddio tystiolaeth ymchwil. Mae'r cynnig tystiolaeth hwn yn defnyddio dull a elwir yn *rhannu gwybodaeth.
* Nod rhannu gwybodaeth yw cael y wybodaeth gywir i'r bobl gywir ar yr amser cywir. Mae’n helpu i wneud tystiolaeth yn fwy hygyrch, ac i gysylltu pobl, i’w helpu i ddeall a chymhwyso’r dystiolaeth i’w lleoliadau eu hunain.
Roedd GCC eisiau gwneud yn siŵr eu bod ddim wedi colli unrhyw ddulliau rhannu gwybodaeth arall a allai fod yn ddefnyddiol. Felly, gofynnwyd i’r Ganolfan Dystiolaeth chwilio am dystiolaeth a gyhoeddwyd yn y maes hwn, a’i chymharu â’r dulliau y maen nhw’n eu defnyddio yn y ‘Cynnig Tystiolaeth’. Mae gwneud yn siŵr bod y gweithlu wedi’i hyfforddi’n iawn ac yn ymgysylltu’n briodol i ddeall a defnyddio tystiolaeth ymchwil yn bwysig er mwyn gwella arfer.
Y nod
Mae'r adolygiad cyflym hwn yn chwilio am y dystiolaeth gorau a gyhoeddwyd o arferion da ac effeithiol o ran rhannu gwybodaeth mewn lleoliadau Gofal Cymdeithasol o bob rhan o'r byd. Mae’n bosibl y bydd yr adolygiad hwn yn helpu i wella dulliau rhannu gwybodaeth Gofal Cymdeithasol Cymru, (sy'n rhan o'u model cynnig tystiolaeth) drwy gymharu â'r dystiolaeth ddiweddaraf a'r arferion gorau. Bydd y canfyddiadau’n cael eu defnyddio i lenwi unrhyw fylchau yn y dulliau presennol.
Strategaeth
Cafodd chwiliad ar-lein ei gynnal mewn tair cronfa ddata (MEDLINE, ASSIA a CINAHL). Cafodd yr un termau chwilio sylweddol eu defnyddio (Gofal Cymdeithasol, Rhannu Gwybodaeth) ar draws y tair cronfa ddata. Mae’r astudiaethau’n cael eu cyflwyno yma.
Canlyniadau
O'r 504 astudiaeth gychwynnol, cafodd 5 eu dewis er mwyn eu hastudio ymhellach. Roedd yr astudiaethau hyn yn ymdrin ag arferion yn Awstralia, Canada, Tsieina, yr Iseldiroedd, UDA, y DU a Sweden. Cafodd lleoliadau gofal cymdeithasol oedolion a phlant eu hastudio.
Mae pob un o'r pum astudiaeth yn dangos y dylai’r broses rhannu gwybodaeth ar gyfer addysg ymchwil fod yn greadigol a defnyddio amrywiaeth o ddulliau: ar-lein ac wyneb yn wyneb. Bydd angen sgrinio'r wybodaeth sy’n cael ei darparu yn ofalus.
Effaith
Mae'r astudiaeth hon wedi dangos bod dulliau rhannu gwybodaeth GCC yn cyd-fynd yn dda â nifer o raglenni tebyg ar draws y byd. Mae wedi dangos bod rhai bylchau h.y. gwerthuso ac adborth, y gellid eu hystyried yn eitem ychwanegol i'w chynnwys.
Crynodeb Lleyg wedi’i ysgrifennu gan Anthony Cope, Aelod Grŵp Partneriaeth Cyhoeddus.
RR0026