Offer rhagfynegi risg cyn llawdriniaeth sy'n rhagfynegi risg morbidrwydd mewn oedolion sy'n cael llawdriniaeth: Adolygiad Tystiolaeth
Cefndir a Chyd-destun
Cyn llawdriniaeth, mae clinigwyr yn defnyddio offer rhagfynegi risg i asesu risgiau sydd ynghlwm â’r llawdriniaeth a chynllunio'r lefel gywir o ofal ar gyfer pob claf. Gall rhagfynegiad risg cywir helpu i nodi cleifion y gellir eu trin yn ddiogel mewn canolfannau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer triniaethau risg isel. Fodd bynnag, mae llawer o offer rhagfynegi risg ar gael ond nid oes llawer o gyngor ar gael o ran eu defnydd ar draws gwahanol arbenigeddau a lleoliadau llawfeddygol.
Amcanion
Ein nod oedd archwilio'r dystiolaeth ar gyfer 14 o offerynnau rhagfynegi risg a ddefnyddir ar hyn o bryd yng Nghymru cyn llawdriniaethau wedi’u cynllunio (nad ydynt yn rhai brys) i oedolion. Roeddem am ganolbwyntio ar yr offer mwyaf addas ar gyfer dewis cleifion sy'n addas ar gyfer llawdriniaeth mewn lleoliadau risg isel.
Strategaeth
Aethom ati i fwrw golwg ar astudiaethau a gyhoeddwyd rhwng 1999 a 2024. Fe wnaethom adolygu perfformiad y 14 offeryn a nodwyd a dethol y rhai mwyaf perthnasol i boblogaeth Cymru i'w dadansoddi ymhellach.
Deilliannau
Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth ar gyfer dau o'r offerynnau. Ar gyfer y 12 sy'n weddill, gwnaethom nodi 118 o astudiaethau ar draws amrywiol arbenigeddau. Roedd yr astudiaethau’n adrodd ar ddeilliannau ac yn mesur perfformiad mewn ffyrdd gwahanol, gan ei gwneud yn anodd i gymharu’r offerynnau. Ni edrychodd yr un o'r astudiaethau ar y defnydd o offer rhagfynegi risg mewn lleoliadau risg isel.
Dewisom offer ACS NSQIP, P-POSSUM, RCRI, ac ASA i'w dadansoddi yn fanwl gan mai nhw sydd fwyaf perthnasol i boblogaeth Cymru. Gwnaethom nodi 76 o astudiaethau i'w hadolygu. Nid oedd yr un o'r pedwar offeryn yn rhagweld risgiau ar draws pob math o lawdriniaeth yn gywir, ac roedd eu perfformiad yn amrywio yn ôl arbenigedd. Mae'r canfyddiadau hyn wedi’u cyfyngu gan y nifer fach o astudiaethau sy'n edrych ar bob math o lawdriniaeth.
Effaith
Nid oedd un offeryn yn rhagweld risgiau yn gywir ar draws pob arbenigedd, gan awgrymu bod rhai yn fwy addas ar gyfer asesu rhai triniaethau penodol o gymharu â thriniaethau eraill. Hefyd, nid oes tystiolaeth ar ddefnyddio offer rhagfynegi risg i nodi cleifion sy'n addas ar gyfer llawdriniaeth mewn lleoliadau risg isel. Mae angen rhagor o ymchwil gan ddefnyddio dulliau cyson i ddeall pa offer sy'n gweithio orau ar gyfer gwahanol arbenigeddau a lleoliadau llawfeddygol.
Awdur: Praveena Pemmasani
RR0037