Crynodeb o astudiaethau COVID Hir ar agor i gyfranogwyr o Gymru

Cefndir a Chyd-destun

Ers pandemig COVID, mae llawer o bobl wedi cael eu heffeithio gan ôl-effeithiau, yr enw ar yr ôl-effeithiau hyn yn aml yw COVID Hir. Gall symptomau amrywio o anawsterau anadlu i flinder a meddwl pŵl. Gall y symptomau hyn bara'n hir a gallant newid bywyd. Mae COVID Hir wedi dod yn fater difrifol ledled y byd.  Gofynnwyd am yr adroddiad hwn gan gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a'r Uned Cymorth Gofal Sylfaenol a'r Gwasanaeth Adsefydlu COVID Hir.

Nodau

Gofynnwyd i Ganolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRWEC) asesu nifer y prosiectau ymchwil ynghylch COVID Hir sy'n agored i gyfranogwyr o Gymru. Nod yr adroddiad hwn yw rhoi crynodeb o'r prosiectau ymchwil hyn.

Strategaeth

Gwnaed chwiliad ar draws nifer o gronfeydd data astudiaethau ymchwil gan ddefnyddio COVID Hir, COVID a thermau chwilio perthnasol eraill.
Y cronfeydd data/gwefannau a chwiliwyd oedd Cochrane, Turning Research Into Practice (TRIP), y Sefydliad Ymchwil Feddygol, y Cyngor Ymchwil Feddygol, Innovate UK, Cyngor Ymchwil Feddygol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Roedd y cyfnod chwilio rhwng Mawrth 2021 a Gorffennaf 2023.   

Canlyniadau

Fe wnaeth yr astudiaeth ddarganfod mai dim ond 4 (pedwar) astudiaethau COVID Hir oedd yn recriwtio cyfranogwyr o Gymru a dim ond un o'r rhain oedd wedi'i leoli yng Nghymru (Astudiaeth LISTRANDO, Prifysgol Caerdydd). Mae tri o'r rhain bellach ar gau i recriwtio (ar 1 Medi 2023) ac mae'r astudiaeth sy'n weddill (CICERO, Coleg Prifysgol Llundain) yn cau i gyfranogwyr newydd ym mis Ionawr 2024.

Casgliad

Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod angen parhaus am ymchwil i COVID Hir ac mae angen i’r rhain gael elfen Gymreig neu ymchwil wedi'i lleoli yng Nghymru, i adlewyrchu anghenion penodol cleifion COVID Hir Cymru.

Crynodeb Lleyg Awdur: Anthony Cope

Dyddiad:
Cyfeirnod:
REM0011