Gofal integredig i bobl hŷn neu bobl sy'n byw gydag eiddilwch ac amseroedd/rhestrau aros – adolygiad cyflym dulliau cymysg
Cefndir
Mae'r GIG yn wynebu problem o boblogaeth sy'n heneiddio - er enghraifft, disgwylir y bydd 30% o boblogaeth Cymru yn 60 oed neu'n hŷn erbyn 2026. Mae'r rhai dros 65 oed yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan eiddilwch a phroblemau iechyd. Wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae amseroedd aros y GIG am ofal iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu. Gelwir y broses o uno gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol gwahanol yn 'ofal integredig', fyddai o bosib yn cynnig gofal mewn ffordd fwy effeithlon, yn ogystal â helpu i wella amseroedd aros. Fodd bynnag, nid yw'n hysbys iawn pa mor effeithiol yw’r dulliau hyn, felly ystyriodd yr adolygiad cyflym hwn a oedd unrhyw dystiolaeth bod y math hwn o ofal 'integredig' yn gwella amseroedd aros. Gofynnwyd y cwestiwn hwn i helpu i lywio gwaith y Comisiwn Bevan, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.
Dulliau
Gwnaeth yr ymchwilwyr adolygiad o ymchwil gyhoeddedig i weld a oedd modd dod o hyd i unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod ymyriadau gofal integredig yn ddefnyddiol wrth wella amseroedd aros. Chwiliwyd am dystiolaeth a gyhoeddwyd rhwng Ionawr 2015 a Mehefin 2025.
Canfyddiadau
Canfu’r tîm adolygu 61 o astudiaethau o dros 14 o wledydd. Roedd 30 o astudiaethau yn cynnwys ymyriadau gofal integredig amrywiol a ddefnyddiwyd mewn dau neu fwy o wasanaethau (e.e. meddygaeth teulu, ysbyty, gofal cymunedol neu gymdeithasol). Roedd yr ymyriadau yn cynnwys gweithio mewn timau amlddisgyblaethol (MDT), datblygu llwybrau a phrotocolau, a chydlynu gofal. Roedd yr astudiaethau yn cynnwys pobl hŷn â nifer o gyflyrau iechyd a / neu anghenion gofal.
Canfu'r tîm adolygu rywfaint o dystiolaeth wan o sawl astudiaeth oedd yn awgrymu y gallai ymyriadau gofal integredig, gan gynnwys timau amlddisgyblaethol, llwybrau/protocolau a / neu gydlynu gofal helpu i leihau amseroedd aros. Canfuwyd bod y dystiolaeth yn wan, gan fod rhai astudiaethau wedi’u dylunio’n wael, rhai o ansawdd isel, ac anghysondebau yn y canfyddiadau.
Mae'r tîm adolygu hefyd wedi canfod rhywfaint o dystiolaeth gref o ddwy astudiaeth sy'n dangos bod cynnal asesiad amlddisgyblaethol i bobl hŷn a ddaeth i adrannau brys ysbytai am wahanol resymau wedi bod yn effeithiol wrth leihau'r amser a dreuliwyd yno.
Roedd rhai astudiaethau’n canolbwyntio ar ddysgu am yr hyn yr oedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phobl hŷn yn ei feddwl am ofal integredig ac a oedd yn gwella amseroedd aros. Roedd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio mewn gwahanol feysydd o’r farn bod gofal integredig yn gallu helpu i wella amseroedd aros. Archwiliodd un astudiaeth brofiadau pobl hŷn a'u perthnasau o ran gwasanaeth osgoi adrannau achosion brys integredig. Mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gallai’r gwasanaeth hwn helpu i leihau amseroedd aros mewn adrannau brys i bobl hŷn sydd ag anghenion brys ond nad ydynt yn argyfwng.
Meysydd lle mae angen am ymchwil pellach
Mae angen mwy o ymchwil o ansawdd uchel sy'n ystyried effaith gofal integredig ar amseroedd aros. Mae angen ymchwil dda hefyd sy'n archwilio safbwyntiau a phrofiadau pobl hŷn a bregus o amseroedd aros a gofal integredig.
Goblygiadau o ran polisïau ac arferion
Mae rhywfaint o dystiolaeth yn bodoli sy’n dangos y gall ymyriadau wella amseroedd aros i gleifion mewnol cyn cael llawdriniaeth, ac amseroedd aros brys mewn adrannau brys. Felly, mae mentrau sy'n cefnogi’r gwaith o ddatblygu'r ymyriadau gofal integredig hyn, yn ogystal â’u defnydd, yn hanfodol.
Awdur: Bob Hall
RR0038