Research papers

Cynnal ymchwil newydd

Mae adolygu tystiolaeth ymchwil bresennol yn rhoi atebion i lawer o gwestiynau, ond mae hefyd yn amlygu meysydd lle mae tystiolaeth ymchwil ar goll. Weithiau, mae angen ymchwil arnom hefyd sy’n archwilio materion sy’n benodol i Gymru.

Er mwyn mynd i’r afael â hyn, mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn gweithio gyda phartneriaid sy’n cydweithio i gynnal astudiaethau ymchwil i ddarparu data a chanfyddiadau ymchwil newydd i lenwi bylchau gwybodaeth a chefnogi datblygiad polisi ac arfer er budd y cyhoedd.

Gan weithio gyda sefydliadau ac ymchwilwyr eraill yng Nghymru, mae’r Ganolfan yn gwneud y canlynol:

  • Datblygu amcanion a chynigion ymchwil
  • Yn cynnal ymchwil ac yn cefnogi timau i gynnal yr ymchwil
  • Gweithio gydag aelodau o'r cyhoedd, y llywodraeth, y GIG ac arweinwyr gofal cymdeithasol i flaenoriaethu ymchwil
  • Sicrhau bod yr ymchwil ar gael i'r rhai sydd ei angen