dental exam

Rhaglen waith gyntaf y Ganolfan Dystiolaeth

20 Gorffennaf

Rhaglen Waith Haf/Hydref 2023

Lansiwyd Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn swyddogol ym mis Mawrth 2023, gydag anerchiad agoriadol gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan.

Mae Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru bellach yn cyhoeddi ei rhaglen waith gyntaf. Mae'r rhaglen yn cwmpasu 19 cwestiwn ymchwil sydd wedi'u rhannu ar draws dwy ffrwd waith - synthesis tystiolaeth ac ymchwil sylfaenol - sy'n ymdrin â phynciau o ystod eang o leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd y Ganolfan yn gweithio gyda phum partner cydweithredol yng Nghymru, gyda chanfyddiadau'r ymchwil yn cael eu defnyddio i lywio polisi ac ymarfer yng Nghymru. 

Bydd y rhaglen synthesis tystiolaeth yn gweld y tîm yn adolygu ac yn adrodd ar dystiolaeth o astudiaethau ymchwil sydd eisoes wedi'u cynnal, gan wneud yn siŵr bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn cael gwybodaeth sy'n hygyrch ac yn gyfredol. Mae'r cwestiynau'n cynnwys archwilio effeithiolrwydd ymyriadau i helpu i wneud cartrefi'n gynhesach ac yn haws i'w gwresogi, Defnyddio deallusrwydd artiffisial ar gyfer diagnosis canser, a'r beichiau clefydau yn y deng mlynedd nesaf i GIG Cymru. 

Bydd y Ganolfan yn cynnal astudiaethau ymchwil newydd i ddarparu data i ateb cwestiynau fel dewis cleifion ar gyfer gofal deintyddol y GIG, effaith newidiadau arfaethedig i'r cyflenwad o gynhyrchion heb glwten a bydd yn gwerthuso effeithiolrwydd canolfannau diagnostig. 

Bydd Grŵp Partneriaeth Cleifion (PPG) y Ganolfan, sy'n cynnwys 14 aelod gan gynnwys dau Gyd-Arweinydd, yn ymwneud â holl ymchwil y Ganolfan, gan gynorthwyo gyda'r dystiolaeth sy'n cael ei datblygu a bydd yn sicrhau ei bod yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i bobl Cymru.