Blwyddyn o Dystiolaeth 2023/24 - Gofal Cymdeithasol
26 Gorffennaf
Yn ein blwyddyn gyntaf fel Canolfan Dystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, rydym ni wedi cwblhau nifer o astudiaethau ymchwil sy'n bwysig i ofal cymdeithasol. Rydym ni’n gweithio'n agos gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru i nodi cwestiynau ymchwil, sy'n bwysig i'w hateb ar gyfer polisi ac ymarfer gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gyda chefnogaeth aelodau ein grŵp partneriaeth gyhoeddus, rydym ni’n sicrhau bod y cyhoedd yng Nghymru wrth wraidd ein gwaith o'r dechrau i'r diwedd.
Mae ein holl adroddiadau ymchwil ar gael i'r cyhoedd ar-lein. Mae'r adroddiadau'n cynnwys Crynodeb Gweithredol 2 dudalen (gweler tudalennau 4 a 5 o'r adroddiad llawn ar gyfer hyn). Cliciwch ar y dolenni canlynol i gael gwybodaeth am bob astudiaeth, gan gynnwys crynodebau lleyg a ffeithluniau defnyddiol.
Adolygiad cyflym o effeithiolrwydd ymyriadau ar gyfer mynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn
Partner sy'n Cydweithio: Iechyd Cyhoeddus Cymru
Oedolion hŷn yw'r gyfran fwyaf o bobl nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Gyda digideiddio cynyddol gwasanaethau, mae'n bwysig deall y ffordd orau o gefnogi oedolion hŷn i oresgyn yr heriau maen nhw’n eu hwynebu wrth gyrchu neu ymgysylltu â'r byd digidol (e.e. at ddefnydd personol). Nod yr adolygiad cyflym hwn oedd asesu effeithiolrwydd ymyriadau i fynd i'r afael ag allgáu digidol mewn oedolion hŷn (60 mlwydd oed a hŷn). Fe wnaeth yr adolygiad ganfod y gall allgáu digidol ddigwydd oherwydd problemau gyda chymhelliant (os nad yw pobl yn gweld pam y gallai'r rhyngrwyd fod yn fuddiol), hygyrchedd (methu yn gorfforol â mchyrchu’r rhyngrwyd), gallu (diffyg sgiliau i ddefnyddio'r rhyngrwyd) neu fforddiadwyedd (methu fforddio mynediad i'r rhyngrwyd) technoleg ddigidol.
Darllen mwy
Costau a chost-effeithiolrwydd gwahanol fodelau gwasanaeth gofal lliniarol, gan ganolbwyntio ar ofal diwedd oes: adolygiad cyflym
Partner sy'n Cydweithio: Sefydliad Ymchwil Feddygol Iechyd a Meddygol Bangor
Mae rhai pobl yn derbyn gofal lliniarol neu ddiwedd oes gartref, eraill mewn ysbytai neu hosbisau, neu gyfuniad o fodelau cartref a hosbis/cartref ac ysbyty. Nod yr adolygiad cyflym hwn yw pennu costau a chost-effeithiolrwydd gwahanol fodelau gwasanaeth gofal lliniarol neu ofal diwedd oes. Fe wnaeth yr adolygiad ganfod bod astudiaethau'n cael eu cynnal yn bennaf o safbwynt y system gofal iechyd, gan anwybyddu costau sy'n gysylltiedig â chleifion a gofalwyr.
Dangosodd yr adolygiad hefyd fod costau gofal lliniarol yn uwch yn yr ysbyty nag mewn hosbis neu ofal lliniarol yn y cartref. Dylai gofal lliniarol o safon yn y cartref fod ar gael i gleifion sy'n dymuno aros a marw gartref a dylai cleifion gael dewis ynghylch lle mae'n well ganddyn nhw farw.
Beth yw'r ymyriadau mwyaf effeithiol i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad yn y teulu: adolygiad cyflym
Partner sy'n Cydweithio: Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu
Mae profedigaeth drwy hunanladdiad yn wahanol i fathau eraill o brofedigaeth ac mae angen cymorth arbenigol arno. Mae plant a phobl ifanc sy’n colli anwyliaid i hunanladdiad yn fwy tebygol o ddioddef proses brofedigaeth gymhleth a phrofi iechyd meddwl gwaeth.
Nod yr adolygiad hwn yw asesu'r dystiolaeth ar gyfer effeithiolrwydd ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd mewn profedigaeth oherwydd hunanladdiad. Dim ond tair astudiaeth a nodwyd ac roedd pob un yn adrodd ar ymyriadau therapi grŵp. Daeth y dystiolaeth gryfaf o astudiaeth lle gwelwyd ostyngiad sylweddol uwch mewn mewn pryder a symptomau iselder plant sy'n derbyn ymyrraeth na'r grŵp rheoli. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil o ansawdd da yn y maes hwn.
Pa mor effeithiol a chost-effeithiol yw ymyriadau i gefnogi plant a phobl ifanc sydd wedi dod i gysylltiad â thrais neu gam-drin domestig: adolygiad cyflym
Partner sy'n Cydweithio: Sefydliad Ymchwil Feddygol Iechyd a Meddygol Bangor
Gall plant a phobl ifanc sy'n dyst i drais a cham-drin domestig (DVA) gael eu heffeithio'n negyddol o ran eu datblygiad seicolegol, emosiynol a chymdeithasol.
Gwyddom bod digwyddiadau andwyol yn ystod plentyndod yn niweidiol i ddatblygiad pobl ifanc ac yn dylanwadu ar eu cwrs bywyd, ac felly mae'n fater iechyd cyhoeddus arwyddocaol.
Nod yr adolygiad cyflym hwn yw tynnu sylw at y dystiolaeth ar ymyriadau effeithiol (ac unrhyw dystiolaeth gost-effeithiolrwydd berthnasol) gan ganolbwyntio ar leihau'r niwed i blant a phobl ifanc sydd wedi dod i gysylltiad â DVA.
Fe wnaeth yr adolygiad ganfod tystiolaeth ragarweiniol bod therapi gwybyddol yn ymyrraeth gost-effeithiol i drin plant a phobl ifanc ag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).
Pa ffactorau lefel sefydliadol sy'n cefnogi neu'n atal graddfa a lledaeniad arloesiadau mewn gofal cymdeithasol plant: adolygiad cyflym
Partner sy'n Cydweithio: Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu
Gall arloesi fod yn fodd i fynd i'r afael â heriau sy'n wynebu gofal cymdeithasol plant, rhai ohonynt wedi'u gwreiddio'n ddwfn a llawer wedi’u gwaethygu gan bandemig COVID-19. Yn ddiweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fuddsoddiad sylweddol o 3 blynedd i gefnogi arloesedd mewn gofal cymdeithasol oedolion a phlant. Mae dull cymhleth ac amlweddog i ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru, sy'n cynnwys cydweithio rhwng ystod o sefydliadau, a fydd yn debygol o effeithio ar benderfyniadau ynghylch gweithredu a chynyddu ymyriadau newydd a/neu bresennol. Nod yr adolygiad oedd nodi unrhyw ffactorau (rhwystrau a galluogwyr) sy'n effeithio ar weithredu a chynyddu arloesedd mewn sefydliadau gofal cymdeithasol plant.